welsh 5

Ho! Ho! Ho!

Pwy sy’n dwad dros y bryn
Yn ddistaw, ddistaw bach;
Ei farf yn llaes a’i wallt yn wyn
A rhywbeth yn ei sach?

Ho! Ho! Ho!

A phwy sy’n eistedd ar y to
Ar bwys y simne fawr?
Siôn Corn, Siôn Corn.
Helo! Helo!
Tyrd yma, tyrd i lawr!

Mae saith rhyfeddod yn dy sach –
Gad i mi weled un?
A rho ryw drysore bychan bach
Yn enw Mab y Dyn.
Mae’r gwynt yn oer ar frig y to;
Mae yma ddisgwyl mawr.
Siôn Corn, Siôn Corn.
Helo! Helo!
Tyrd yma, tyrd i lawr!

Siôn Corn, Siôn Corn.
Helo! Helo!
Tyrd yma, tyrd i lawr!

Ho! Ho! Ho!

Siôn Corn ydw i

Siôn Corn ydw i, 
Siôn Corn ydw i, 
Dwi’n edrych am y plant bach da 
wrth fynd o dŷ i dŷ. 

Siôn Corn ydw i, 
Siôn Corn ydw i, 
Mae’n amser mynd i’r gwely
hwyl fawr, nos da i chi!

http://welshnurseryrhymes.wales/mynegai

Leave a comment